Llywodraeth Cymru 
  
 
 Strategaeth a chynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer y seilwaith gwefru cerbydau trydan
 Yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith 
 Ionawr 2024

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Ym mis Mawrth 2023, cyflwynodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ei adroddiad ar Strategaeth a Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer y Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan. Mae’r diweddariad hwn yn ailddatgan 21 o argymhellion y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru, ac mae’n cynnwys y diweddaraf o ran yr argymhellion pan fo’r wybodaeth ar gael.

 

Cynnwys

Cyflwyniad.. 3

Ymateb i’r 21 argymhelliad.. 4

Argymhelliad 1. 4

Argymhelliad 2.. 5

Argymhelliad 3.. 6

Argymhelliad 4.. 7

Argymhelliad 5.. 8

Argymhelliad 6.. 10

Argymhelliad 7.. 14

Argymhelliad 8.. 16

Argymhelliad 9.. 17

Argymhelliad 10.. 20

Argymhelliad 11. 21

Argymhelliad 12.. 22

Argymhelliad 13.. 22

Argymhelliad 14.. 24

Argymhelliad 15.. 24

Argymhelliad 16.. 24

Argymhelliad 17.. 25

Argymhelliad 18.. 26

Argymhelliad 19.. 27

Argymhelliad 20.. 27

Argymhelliad 21. 28

 

 

Cyflwyniad

Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ein Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan yn 2021, rydym wedi buddsoddi dros £26 miliwn mewn seilwaith gwefru ledled Cymru, gan gynyddu nifer y dyfeisiau cyhoeddus o 120%, sy’n cyfateb i gyfanswm o 1,465 man gwefru ar 1 Ionawr 2023.

Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2022, o’i gymharu â phob rhanbarth ledled y DU, Cymru oedd â’r cynnydd mwyaf yng nghyfanswm ei ddyfeisiau gwefru, sef 17.3%, yn ogystal â’r cynnydd canrannol mwyaf mewn dyfeisiau gwefru chwim neu uwch, sef 26.9%.

Bydd angen rhagor o fuddsoddiad sylweddol i fodloni’r lefelau a ragwelir o ran y galw am gerbydau trydan a nifer y bobl a fydd yn dechrau eu defnyddio, yn enwedig ar ôl y gwaharddiad arfaethedig ar injans tanio mewnol (ICE) ac ymlaen i’r 2030au.

Gan weithio gyda’n partneriaid cyflenwi, rydyn ni eisiau manteisio ar y cyfle i arwain drwy esiampl a helpu i adeiladu rhwydwaith gwefru cerbydau trydan dibynadwy ac effeithlon yng Nghymru, gan drawsnewid y ffordd mae trigolion ac ymwelwyr yn teithio. Er mwyn cyflawni hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu map ar lefel rhaglen, sy’n nodi camau gweithredu ar draws pum blaenoriaeth allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyflawni dros y 3-5 mlynedd nesaf, sy’n hanfodol i gyflymu’r seilwaith gwefru cerbydau trydan yn llwyddiannus ledled Cymru, ac i fodloni’r dangosyddion perfformiad allweddol diffiniedig a nodir yn y Strategaeth.

Hoffwn ddiolch i aelodau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith am eu hadroddiad ar strategaeth a chynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith gwefru cerbydau trydan. Rwyf wedi nodi fy ymateb i argymhellion unigol yr adroddiad isod.

 

 

Ymateb i’r 21 argymhelliad

Argymhelliad 1

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru ailedrych ar y strategaeth gwefru cerbydau trydan yng ngoleuni’r newid ym mhatrymau’r defnydd o gerbydau trydan a’r twf mewn cerbydau trydan masnachol. Dylai Llywodraeth Cymru bennu amserlen ar gyfer y gwaith hwn ac ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol, gan gynnwys gyrwyr a darparwyr seilwaith gwefru

Ymateb: Derbyn

Rydym yn cydnabod bod patrymau defnyddio cerbydau trydan yn newid yn gyflym, o ganlyniad i’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio cerbydau trydan, gan gynnwys faniau trydan â batri, datblygiadau o ran capasiti batris a thechnoleg gwefru. Fodd bynnag, fe wnaethom ddatblygu’r strategaeth gwefru cerbydau trydan gan gadw hyn mewn cof a chredwn fod prif amcanion y strategaeth, sef cynyddu darpariaeth drwy gefnogi’r gwaith cyflwyno yn y sector preifat a mynd i’r afael â bylchau yn y farchnad, yn ogystal â galluogi teithio pellter hirach ledled Cymru, yn dal yn ddilys. Serch hynny, byddwn yn monitro tueddiadau sy’n dod i’r amlwg ac yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion penodol o ran mannau gwefru cyhoeddus lle byddai hyn yn ddefnyddiol.   

Fel y nodwyd gan y Pwyllgor, mae cynllun ar gyfer cludo nwyddau yn cael ei ddatblygu ac rydym yn cytuno y dylid ystyried datgarboneiddio fel rhan o’r cynllun hwnnw. Rydym yn datblygu gwell dealltwriaeth o’r anghenion posibl o ran seilwaith drwy ymgysylltu ag arbenigwyr fel llofnodwr y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Byd-eang ar Gerbydau Gwaith Trwm di-allyriadau, gyda’r Adran Drafnidiaeth a gwahanol fforymau, ac rydym yn hyrwyddo cyfranogiad Cymru yn y Treialon Cludo Nwyddau ar y Ffyrdd yn Ddi-allyriadau.  

Goblygiadau Ariannol – bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflawni o fewn y cyllidebau presennol.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae TrC yn parhau i fonitro ac addasu ei ddull cyflawni yn unol â chyfraddau defnyddio cerbydau trydan, cyfleoedd arloesi newydd a newidiadau i safonau cenedlaethol ac arferion gorau. Mae gwybodaeth newydd yn cael ei rhannu drwy seminarau deufisol gyda'r holl Awdurdodau Lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, gyda Scottish Power Energy Networks (SPEN) a National Grid Electricity Distribution (NGED) drwy'r Gweithgor Cysylltiadau a chyda'r sector masnachol drwy'r Gweithgor Gweithredwyr Mannau Gwefru.

 

Argymhelliad 2

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y Rhaglen Datgarboneiddio Trafnidiaeth, a fydd yn cefnogi’r broses o ddatgarboneiddio bysiau a thacsis a cherbydau hurio preifat

Ymateb: Derbyn

Mae Cymru Sero Net – Cyllideb Garbon 2 yn nodi’r ystod lawn o bolisïau i leihau carbon yn ystod y cyfnod rhwng 2021 a 2025.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Datgarboneiddio Trafnidiaeth, a fydd yn cefnogi’r gwaith o ddatgarboneiddio bysiau, tacsis a cherbydau llogi preifat erbyn yr hydref.

Goblygiadau ariannol – Dim.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Cytunodd Gweinidog yr Economi a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ddatblygu cynlluniau ar gyfer Datgarboneiddio’r Fflyd Bysiau a Chydgasglu’r Galw. Lluniodd y Grŵp hwn argymhellion mewn papur terfynol ym mis Mawrth 2022.

Rydym yn buddsoddi ac yn cefnogi camau i fuddsoddi mewn cerbydau di-allyriadau gwyrdd newydd i'w defnyddio ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol ledled Cymru. Mae cynlluniau ar gyfer datgarboneiddio'r fflyd bysiau erbyn 2035 bron wedi'u cwblhau, a bydd achos busnes amlinellol wedi'i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Mae bysiau trydan llawn bellach yn rhedeg bob dydd yng Nghaerdydd a Chasnewydd, ac mae gennym fflydoedd o fysiau trydan newydd wedi'u hariannu gan grant yng ngorllewin a gogledd Cymru i'w defnyddio ar rwydwaith Traws Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r defnydd hwn yng Nghymru yn golygu ein bod yn symud mewn ffordd debyg i ardaloedd eraill o'r DU o ran canran y fflyd bysiau gwasanaeth sydd wedi'i datgarboneiddio.

·         Mae 14 o fysiau trydan yn gweithredu ar wasanaeth Traws Cymru yn y Gogledd a'r Gorllewin sy’n costio £8.519 i Lywodraeth Cymru.

·         Mae Bws Casnewydd wedi prynu 44 o gerbydau trydan sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU a chyda benthyciad masnachol o £1.85m gan Lywodraeth Cymru. Yn 2023 dyfarnwyd grant o £6.323m i gwmni Bws Casnewydd gan Lywodraeth Cymru a fydd yn sicrhau 13 o fysiau eraill a fydd yn cael eu darparu yn gynnar yn 2024.

·         Mae Bws Caerdydd wedi prynu 36 o gerbydau trydan. Yn 2023 dyfarnwyd grant o £8m i Bws Caerdydd gan Lywodraeth Cymru a fydd yn sicrhau 19 bws arall, a fydd yn cael eu darparu yn gynnar yn 2024.

Y gyllideb ar gyfer 2023-24 yw £11m, ond bydd hyn hefyd yn talu am rai costau diwygio'r rhwydwaith a chost paratoi ar gyfer masnachfreinio.

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi ymgynghori ar gynigion ar gyfer Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru). Ym mis Hydref 2023, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog grynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad a gwnaeth Ddatganiad Llafar ar y Bil.

Rydym yn cydnabod bod heriau i'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat, gan gynnwys cost prynu cerbyd di-allyriadau (ZEV), pryder am ba mor bell y gall cerbydau gyrraedd ac argaeledd seilwaith gwefru.

Er mwyn hyrwyddo'r broses o drosglwyddo i gerbydau di-allyriadau, rydym yn:

·         Treialu mannau gwefru pwrpasol ar gyfer tacsis trydan mewn lleoliadau allweddol i geisio sicrhau eu bod yn cael blaenoriaeth wrth wefru pan fydd ei angen arnynt; a

·         Darparu cyllid tuag at 44 o dacsis trydan a ddefnyddir ar gyfer cynllun "profi cyn prynu" yng Nghymru.

 

Argymhelliad 3

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y strategaeth gwefru cerbydau trydan yn ystyried cwestiynau ynghylch cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

Ymateb: Derbyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb sy’n edrych ar y risgiau cysylltiedig â phortffolio cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydan (cynlluniau, prosiectau ac astudiaethau) sy’n arwain at effeithiau anghymesur neu wahaniaethol ar gydraddoldeb ar gyfer grwpiau â nodweddion gwarchodedig. Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gynnal yn unol â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf). Er nad yw’n ofyniad ar gyfer yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, mae’r adroddiad hefyd yn nodi sut mae materion cydraddoldeb wedi cael eu hintegreiddio yn natblygiad y portffolio gwefru cerbydau trydan hyd yma. Mae copi o’r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i atodi.

Goblygiadau Ariannol – Dim.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae'r adnodd modelu sy'n cael ei ddefnyddio i arwain buddsoddiad mewn seilwaith gwefru cerbydau trydan gan awdurdodau lleol yn cael ei bwysoli tuag at ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl o golli allan ar fuddsoddiad masnachol. Bydd hyn yn cael ei weithredu o rownd ariannu nesaf y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn.

Argymhelliad 4

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl cyhoeddi'r adroddiad hwn, dylai Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y canlynol: cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu; cynnydd yn erbyn yr ymrwymiadau a roddodd mewn tystiolaeth ysgrifenedig (a nodir ym mharagraff 13 o'r adroddiad hwn); a chynnydd tuag at gyflawni pob un o'r argymhellion yn yr adroddiad hwn

Ymateb: Derbyn

Lluniodd swyddogion raglen gyflawni uchelgeisiol wedi’i hategu gan adnoddau modelu, Safonau Cenedlaethol a chysylltiadau effeithiol â phartneriaid cyflawni allweddol.

Mae TrC wedi bod yn arwain prosiect i ddarparu 19 man gwefru chwim ar gyfer cerbydau trydan ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol. Mae hyn yn cael ei gyflawni gan bartneriaeth unigryw lle mae’r rhwydwaith yn cael ei ariannu’n fasnachol i raddau helaeth, ond mae cyllid cyhoeddus yn canolbwyntio ar “ddatgloi” safleoedd sydd â chyfyngiadau sylweddol o ran y grid, drwy ariannu gwaith Gweithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu. Mae lleoliad y safleoedd hyn yn canolbwyntio ar ardaloedd yr ystyrir eu bod yn annhebygol o elwa o fuddsoddiad masnachol yn unig yn y tymor byr i ganolig, ond sydd eto’n hanfodol er mwyn sicrhau darpariaeth gyson ar draws y rhwydwaith ffyrdd strategol ar gyfer gwefru i “adlenwi” ar hyd llwybrau i gyrchfannau twristiaeth allweddol a chyrchfannau eraill ledled Cymru. Mae’r gwaith datblygu hefyd yn canolbwyntio ar safleoedd sy’n eiddo cyhoeddus, gyda’r fantais ychwanegol o ddarparu ffrwd incwm gymedrol o’r brydles gyda gweithredwyr mannau gwefru. Mae safleoedd hefyd wedi cael eu dewis yn ofalus ar sail y cyfleusterau cyfagos, gan gynnwys eu gallu i ddarparu manteision i fusnesau lleol sy’n bodoli eisoes a’r sector lletygarwch. Bydd cwblhau’r prosiect hwn yn 2023 yn golygu bod mannau gwefru chwim bob 25 milltir o leiaf ledled Cymru, a phob 20 milltir ar gyfer y rhan fwyaf o'r rhwydwaith – a hynny ddwy flynedd cyn targed y Cynllun Gweithredu.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae'r holl safleoedd ar y Rhwydwaith Ffyrdd strategol ar wahân i dri wedi'u darparu, a'r eithriadau yw'r rhai pan fo materion trydydd parti cymhleth wedi dod i'r amlwg.

Mae’r seilwaith gwefru sylfaenol hwn ar draws Rhwydwaith Ffyrdd Strategol Cymru yn gam mawr tuag at roi’r hyder i ddefnyddwyr y gallant yrru ledled Cymru heb i fatri'r cerbyd fynd yn fflat – a thuag at weledigaeth y strategaeth, sef “Erbyn 2025, y bydd pawb sy’n defnyddio ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus eu bod yn gallu cael mynediad at seilwaith gwefru cerbydau trydan pryd bynnag a ble bynnag y bydd ei angen arnynt.”

Fel yr oedd pethau ym mis Ionawr 2023, roedd nifer y mannau gwefru fesul 100,000 o breswylwyr a oedd wedi’u gosod yng Nghymru wedi cynyddu o 21 i 47.2 (cyfartaledd y DU yw 55.3) neu dwf o oddeutu 125%. Cymru sy’n dangos y cynnydd mwyaf o blith holl ranbarthau'r DU o ran cyfanswm y ddarpariaeth gwefru (17.3%) a gwefru chwim (26.9%).

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae'r gyfradd twf calonogol yn parhau, gyda nifer y mannau gwefru fesul 100,000 o breswylwyr bellach yn 66.4, gyda Chymru bellach yn drydydd yn y DU y tu ôl i'r Alban a Llundain.

Goblygiadau ariannol – Dim.

 

Argymhelliad 5

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai'r Dirprwy Weinidog egluro sut y bydd y cynllun cyflawni’n ymwneud â'r Cynllun Gweithredu a rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor nad yw cynhyrchu cynlluniau yn cymryd lle’r angen i weithredu.

Ymateb: Derbyn

Pwrpas y cynllun cyflawnadwyedd yw nodi sut bydd y strategaeth a’r cynllun gweithredu yn cael eu cyflawni’n ymarferol, a chyfeirir atynt fel y Rhaglen Seilwaith gwefru cerbydau trydan (y Rhaglen), wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyflymu’r gwaith o gyflwyno seilwaith gwefru ledled Cymru.

Mae’r Rhaglen yn canolbwyntio ar ba mor ymarferol yw cyflawni achosion ariannol, masnachol a rheoli’r strategaeth a’r cynllun gweithredu. Mae copi o’r Crynodeb Gweithredol o adroddiad y Rhaglen ynghlwm.

Mae’r achos ariannol yn awgrymu cost gwariant cyfalaf rhwng £351 miliwn a £1,550 miliwn ar gyfer gwefru Ar y Ffordd ac Yn y Gyrchfan erbyn 2040, heb unrhyw dwf ar ôl y pwynt hwnnw, gyda £114 miliwn i £689 miliwn yn cael ei wario ar wefru Ar y Ffordd a £236 miliwn i £861 miliwn ar wefru Yn y Gyrchfan. Erbyn hyn, mae nifer y mannau gwefru Ar y Ffordd yn 1.1 i 6.5 mil a mannau gwefru Yn y Gyrchfan yn 6.4 i 61.8 mil, gyda chyfanswm o 7.4 i 68.4 mil. Mae’r capasiti gwefru yn cyrraedd 141 i 1,165 MW, wedi’i ledaenu ar draws 968 i 23,500 o safleoedd. Mae’r dadansoddiad hwn yn amheus ynghylch pa gorff sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb ariannol.

O safbwynt masnachol (ac o ystyried y costau sylweddol a nodir uchod), mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o’r seilwaith gwefru yn cael ei ddarparu gan y sector preifat. Rôl Llywodraeth Cymru yw hwyluso buddsoddiadau yn y sector preifat ledled Cymru a sicrhau mynediad cyfartal i bawb drwy ymyriadau marchnad penodol fel cymorthdaliadau, consesiynau ac ati. Y cynllun ar gyfer gwefru cerbydau trydan yw sicrhau darpariaeth decach yn natblygiad y rhwydwaith drwyddo draw.

Mae’r Rhaglen yn argymell y dylid blaenoriaethu dwy elfen o’r strategaeth gyflawni yn gyntaf (cyn symud ymlaen at eraill): y rhwydwaith gwefru ar y ffordd a gwefru yn y gyrchfan / ar y stryd mewn ardaloedd adeiledig. Yr elfennau hyn fydd yn rhoi'r budd mwyaf i ddefnyddwyr yng Nghymru yn y tymor byr, gan ddarparu rhwydwaith traws-genedlaethol cryf a darparu ar gyfer defnyddwyr y mae mwy o angen cyfleusterau gwefru cyhoeddus arnynt.

Mae’r achos rheoli yn amlinellu’r prif ystyriaethau wrth ddarparu a rheoli’r rhaglen o ymyriadau sydd eu hangen i hwyluso a darparu’r rhwydwaith sy’n cael ei ffafrio. Mae maint a chymhlethdod y broses o gyflawni’r seilwaith gwefru cerbydau trydan yn golygu bod angen strwythur rheoli cryf ac effeithiol sy’n pennu sut bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyflawni yn rheoli ac yn cyflawni’r rhaglen seilwaith gwefru cerbydau trydan. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o’i gymharu â’r adnoddau Llywodraeth Cymru sydd wedi’u neilltuo heddiw.

Mae angen rhagor o waith a datblygu i weithredu’r rhaglen seilwaith gwefru cerbydau trydan yn y cam nesaf, gan ddefnyddio’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma (ee  Safonau Cenedlaethol, ymgysylltu’n gynnar â’r farchnad). Er mwyn cyflawni hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu map ar lefel rhaglen, sy’n nodi camau gweithredu ar draws pum blaenoriaeth allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyflawni dros y 3-5 mlynedd nesaf, i gyflymu’r seilwaith gwefru cerbydau trydan yn llwyddiannus ledled Cymru, ac i fodloni’r dangosyddion perfformiad allweddol diffiniedig a nodir yn y Strategaeth.

5 blaenoriaeth allweddol:

1. Sefydlu Swyddfa Rheoli Prosiectau i reoli trefniadau cyflawni, gosod safonau a monitro cynnydd.

2. Darparu cymorth ac arweiniad i alluogi awdurdodau lleol (a’r sector preifat) i ddarparu’r rhwydwaith sy’n cael ei ffafrio.

3. Ymgysylltu â’r sector preifat i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r rhwydwaith sy’n cael ei ffafrio ac yn meithrin cydweithio rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

4. Datblygu’r mecanweithiau, yr wybodaeth a’r adnoddau i ddarparu’r rhwydwaith sy’n cael ei ffafrio.

5. Sicrhau'r adnoddau a’r mecanweithiau sydd eu hangen i ddarparu’r rhwydwaith yn gyflym yn unol ag amcanion polisi.

Goblygiadau Ariannol – Mae’r gwaith hwn yn cael ei gyflawni gan TrC (drwy’r llythyr Cylch Gwaith), gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

 

 

Yr wybodaeth ddiweddaraf:

·         Mae Swyddfa Rheoli Prosiectau ar waith yn TrC, gan gydlynu prosiectau cyflawni, rheoli risgiau, llywodraethu grwpiau gweithredu a chynlluniau a monitro'r ddarpariaeth yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

·         Mae cymorth i’r Awdurdodau Lleol bellach ar waith, sy'n cynnwys seminarau misol, mynediad i gyfres o gyngor a chanllawiau ‘NEVIS’ Cenex ar gyfer cyflawni (gan gynnwys cynlluniau caffael, prydlesi, optimeiddio strategaeth gyflawni) a gwybodaeth ar yr hyn a ragwelir o ran y defnydd o gerbydau trydan â batri (BEV) a mannau gwefru ar gyfer pob awdurdod lleol. Caiff hyn ei ategu gan yr offeryn Mapio Rhwydwaith sy’n cael ei Ffafrio sy'n helpu i nodi'r mathau o fodelau masnachol a fydd yn gweithio mewn lleoliadau penodol, a sicrhau bod dyfarniadau cyllid yn cyd-fynd â hyn.

·         Sefydlwyd gweithgor Gweithredwyr Mannau Gwefru yng ngwanwyn 2023 ac mae'n mynd ati i ddatblygu portffolio o gamau gweithredu ar gyfer aelodau unigol a'r sector cyhoeddus. Y nod yw rhannu argymhellion allweddol er mwyn hwyluso'r broses o gyflawni yn ystod tymor yr hydref 2023.

·         Mae mecanweithiau ac adnoddau yn cynnwys yr offeryn Mapio Rhwydwaith sy’n cael ei Ffafrio a ddisgrifir uchod, offer gwerthuso ychwanegol ar gyfer cydleoli ynni adnewyddadwy, templedi prydlesi, arferion gorau o ran caffael a strategaethau ymgysylltu masnachol.

 

Argymhelliad 6

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r dangosyddion perfformiad allweddol yn y Cynllun Gweithredu. Ar gyfer camau gweithredu sydd i'w cyflawni o fewn amserlen hirach, megis camau 1 a 7, dylai anelu at ddatblygu dangosyddion perfformiad allweddol sy’n fwy penodol, gydag is-gamau gweithredu a therfynau amser cysylltiedig.

Ymateb: Derbyn

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn y Cynllun Gweithredu i sicrhau eu bod yn gyraeddadwy, yn amserol, yn fesuradwy, yn benodol, yn uchelgeisiol ac yn synhwyrol (CAMPUS).

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod datganiad y pwyllgor, sef bod “Llywodraeth Cymru wedi methu’n llwyr â chyflawni llawer o’r Camau Gweithredu yn y Cynllun Gweithredu a bod diffyg cynnydd tuag at gyflawni eraill”, yn werthusiad annheg o’r gwaith a’r canlyniadau sydd wedi’u cwblhau hyd yma. Nid yw darparu seilwaith gwefru cerbydau trydan yn un o flaenoriaethau'r Rhaglen Lywodraethu, sy'n golygu mai cyfyngedig iawn yw’r adnoddau y mae’r prosiect wedi elwa arnynt. Ond mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod wedi cyflawni cynnydd sylweddol er gwaethaf hyn.

Mae angen cydnabod pa mor gymhleth yw cyflawni’r strategaeth. Yr hyn sy’n allweddol i strategaeth fasnachol Llywodraeth Cymru yw’r egwyddor sylfaenol na ellir cael dull “un ateb i bawb” o ymyrryd yn y farchnad. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn nodi’r angen i gydbwyso’r anghenion gwefru gwirioneddol â nodau’r rhwydwaith sy’n cael ei ffafrio, gan sicrhau’r elw mwyaf posibl o ddarparu seilwaith ar yr un pryd â lleihau gwariant cyhoeddus a dyrannu’r risg fwyaf i’r sector preifat. Mae angen asesu bylchau o ran cydraddoldeb ym muddsoddiad y sector preifat fesul achos. Ar ben hynny, mae angen i ymyriadau ariannol fod yn gyfyngedig ac wedi’u targedu, gan ystyried ffactorau fel perchnogaeth tir, y costau a fydd yn cael eu trosglwyddo i’r defnyddiwr, a’r angen gwirioneddol am wefru yn yr ardal – er enghraifft, gallai’r Llywodraeth roi cymhorthdal gwariant cyfalaf ar gyfer cysylltu â’r grid mewn safleoedd allweddol ar y ffordd lle mae capasiti’r grid yn gyfyngedig neu lle mae pellter mawr i’r pwynt cysylltu agosaf.

Ers cyhoeddi’r strategaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ei hadnoddau cyfyngedig ar ddwy flaenoriaeth allweddol: darparu seilwaith gwefru sylfaenol Cymru sy’n rhoi hyder i ddefnyddwyr y gallant deithio ledled Cymru heb ofni na fydd modd gwefru'r cerbyd cyn i'r batri fynd yn fflat (gweledigaeth y strategaeth); a datblygu offer a chynlluniau a fydd yn helpu awdurdodau lleol a phartneriaid cyflawni eraill i gyflymu’r gwaith o gyflwyno cyfleusterau gwefru sydd ar gael yn gyhoeddus ledled Cymru.

Camau gweithredu

Dangosyddion Perfformiad Allweddol disgwyliedig

Dangosyddion Perfformiad Allweddol wedi’u cyflawni

1

1 man gwefru cyhoeddus ar gyfer pob 7-10 cerbyd trydan erbyn 2025

Ym mis Medi 2022 (sef y data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer y gymhariaeth), roedd 1,417 o fannau gwefru cyhoeddus wedi’u gosod yng Nghymru, sef tua 1 man gwefru ar gyfer pob 9 cerbyd trydan â batri. Cyfanswm y DU yw 1 man gwefru ar gyfer pob 16 cerbyd trydan â batri.  

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Ym mis Hydref 2023, roedd gan Gymru 2,061 o fannau gwefru cyhoeddus

2

Grŵp Cysylltiadau i adrodd yn y flwyddyn ariannol gyfredol (2021)

Eto i’w gyflawni. Gweler yr ymateb i Argymhelliad 12.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae’r Grŵp Cysylltiadau bellach yn weithredol.

3

Rhwydwaith o orsafoedd gwefru ledled Cymru bob tua 20 milltir ar draws y rhwydwaith ffyrdd strategol erbyn 2025

Bydd y gwaith o osod 19 o fannau gwefru chwim bob 25 milltir o leiaf ledled Cymru, a phob 20 milltir ar gyfer y rhan fwyaf o'r rhwydwaith, yn cael ei gwblhau yn 2023 – a hynny ddwy flynedd cyn targed y Cynllun Gweithredu.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae pob un ond tri safle gwefru ar draws y rhwydwaith ffyrdd strategol bellach ar waith (mae gan bob un sy'n weddill ofynion cydsynio trydydd parti / sector preifat cymhleth)

 

4

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni Safon Ansawdd Genedlaethol i’w defnyddio wrth gaffael yn y sector cyhoeddus erbyn diwedd 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Safonau Cenedlaethol ar gyfer y Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan yng Nghymru. Mae’r canllaw ar-lein yn rhoi manylion set o arferion gorau a argymhellir ar gyfer cyfleusterau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus yng Nghymru sy’n ddiogel, yn hygyrch ac yn ddibynadwy. Mae’r Safonau wedi cael eu datblygu i’w defnyddio gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus, mentrau cymunedol a phartneriaid cyflawni sy’n ymwneud â gosod seilwaith gwefru cerbydau trydan yng Nghymru.

Mae’r canllaw wedi cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol a phartneriaid cyflenwi eraill ers mis Ionawr 2022, a bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf.

5

Adolygu polisi a rheoliadau erbyn 2022 a gwneud diweddariadau, lle bo’n briodol, i gefnogi’r defnydd o gerbydau trydan

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddiwygiadau drafft i Reoliadau Adeiladu yn ystod hanner cyntaf 2023. Diben y diwygiadau drafft yw ei gwneud yn orfodol bod mannau gwefru cerbydau trydan yn cael eu darparu ar gyfer pob annedd newydd sydd â lle parcio cysylltiedig, a bod pob adeilad amhreswyl newydd sydd â mwy na 10 lle parcio ceir yn cynnwys un man gwefru ac yn llwybro ceblau ychwanegol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r diwydiant trydan i hwyluso adolygiad pellach o bolisi a rheoliadau Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o wefru cerbydau trydan. Bydd hyn yn cynnwys ystyried a oes modd rhoi unrhyw fesurau pellach ar waith i gefnogi cynllunio gofodol yn lleol ac yn rhanbarthol, a fframwaith ar gyfer cynlluniau datblygu lleol a strategol.

Cynhelir adolygiad o hawliau Datblygu a Ganiateir a fydd yn ystyried aliniad y diwydiant ac yn mynd i’r afael ag unrhyw anghysondeb o ran rheoli'r datblygu neu’r ffordd y mae’n cael ei weithredu ledled y DU. Bydd ymgysylltu a chydweithio parhaus ag awdurdodau cynllunio lleol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu dulliau gweithredu lleol.

6

Sefydlu gweithgor gweithredwyr mannau gwefru yn 2021

Eto i’w gyflawni. Gweler yr ymateb i Argymhelliad 17.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae’r Gweithgor gweithredwyr mannau gwefru bellach yn weithredol

7

Gwella hyder y cyhoedd mewn gwefru cerbydau trydan, gan symud Cymru o’r cam arloesi i'r cam mwyafrif cynnar o ran aeddfedrwydd y farchnad erbyn 2030.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio rhaglen gyfathrebu a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid a’r cyhoedd, gan gynyddu eu hyder mewn gwefru cerbydau trydan.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Manteision cerbydau trydan wedi’u cyfleu i ddefnyddwyr drwy wefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru (Dewisiadau Teithio Gwyrdd). Bu’r Gweithgor gweithredwyr mannau gwefru yn rhoi cyflwyniadau yn ystod ‌‌Wythnos Hinsawdd Cymru 2023

8

Cwblhau adolygiad o gyfleoedd a’r gadwyn gyflenwi erbyn diwedd 2021. Sefydlu rhaglen i wireddu cyfleoedd ar gyfer arloesi a buddsoddi.

Mae tîm Datgarboneiddio Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r is-adran Busnes a Rhanbarthau (gan gynnwys y timau Arloesi a Mewnfuddsoddi) i nodi a chefnogi arloesedd a chyfleoedd buddsoddi yn y sector preifat.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Fframwaith Caffael Cenedlaethol newydd a fydd yn rhoi cyfle i gydweithio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau model cyflawni safonol ac osgoi ymarferion caffael ad-hoc. Bydd yn helpu i sicrhau manteision ehangach i Gymru, fel y cyfle i ddatblygu cadwyn gyflenwi yng Nghymru.

Mae’r 19 safle gwefru cyflym ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol wedi cael eu dewis yn ofalus ar sail y cyfleusterau cyfagos, gan gynnwys eu gallu i ddarparu manteision datblygu economaidd i fusnesau lleol presennol a’r sector lletygarwch.

9

Ystyried y seilwaith gwefru ym mhob cynllun datblygu lleol a rhanbarthol newydd ac sy’n dod i'r amlwg, gan ddechrau yn 2021.

 

Mae Polisi Cynllunio Cymru a Cymru’r Dyfodol eisoes yn ymdrin â gwefru cerbydau trydan.

Mae bodloni’r gofyniad am seilwaith gwefru cerbydau trydan hefyd yn rhan allweddol o ddatblygu Cynllun Ynni Ardal Leol, sef dull gweithredu arloesol sy’n mynd i’r afael â’r system ynni gyfan.

 

Goblygiadau ariannol – Dim.

 


Argymhelliad 7

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiad i adolygu’r dangosyddion perfformiad allweddol yn flynyddol a chyhoeddi canlyniad yr adolygiad. At hynny, dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol.

 

Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod monitro cynnydd y ddarpariaeth seilwaith gwefru cerbydau trydan yn dasg hollbwysig i sicrhau bod y rhaglen ar y trywydd iawn i gyflawni’r amcanion a’r dangosyddion perfformiad allweddol a bennwyd gan y Strategaeth, yn ogystal â sicrhau bod seilwaith gwefru digonol yn cael ei ddarparu i ateb galw cerbydau trydan yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu a chyhoeddi’r dangosyddion perfformiad allweddol ar adegau strategol, gan adlewyrchu camau allweddol yn y rhaglen gyflawni a’r adnoddau sydd ar gael.

Goblygiadau Ariannol – bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud o fewn y cyllidebau presennol.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Roedd Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan Cymru a gyhoeddwyd yn 2021 yn rhagweld nifer y cerbydau trydan ar y ffordd ar gyfer blynyddoedd i ddod , sef 2025 a 2030. Gwnaed y rhagolygon hyn ar adeg pan oedd y defnydd o gerbydau trydan yn is nag 1% yng Nghymru, yn ogystal ag ar sail yr amcangyfrif uchaf o’r galw (‘Leading the Way’) yn Senarios Ynni’r Dyfodol gan y Grid Cenedlaethol . Yn seiliedig ar y gwaharddiad ar Beiriannau Tanio Mewnol (ICEs) yn 2030 sydd wedi'i wrthdroi bellach, mae'n tybio na fyddai Peiriannau Tanio Mewnol yn cael eu prynu ar ôl 2032. Ar ben hynny, nid yw'n mynd i'r afael yn llawn â thargedau ymestynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer trosglwyddo teithiau car yn sylweddol i weithio o bell a dulliau cynaliadwy, sydd yn y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (2022-2027). Mae tystiolaeth bellach ynghylch newidiadau hirdymor o ran arferion teithio ar ôl COVID hefyd wedi cael eu deall yn well yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Am y rhesymau uchod, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid i awdurdodau lleol Cymru sydd wedi penodi Cenex i ddatblygu rhagolygon newydd ar sail tystiolaeth ar gyfer cerbydau trydan, a fydd yn meddu ar y manteision canlynol:

·         Mae gan bob awdurdod lleol fynediad

·         Diweddaru data sylfaenol yn barhaus

·         Wedi'i ddadgyfuno yn ôl pob ALl ar gyfer pob blwyddyn

·         Yn gysylltiedig â rhagolygon parcio cerbydau a setiau data byw eraill

·         Safon a dderbynnir yn genedlaethol - a ddefnyddir gan ALlau yn Lloegr, wedi'i hariannu gan y Swyddfa Cerbydau Di-allyriadau (OZEV)

A screen shot of a computer  Description automatically generated

Llun: Darlun o ofyniad seilwaith gwefru cerbydau trydan a ragwelir ar gyfer Blaenau Gwent gan ddefnyddio NEVIS, sef adnodd modelu cenedlaethol Cenex sy’n rhoi Gwybodaeth ar Gerbydau Trydan.

Mae Cenex eisoes wedi'u penodi i gynghori awdurdodau lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus ar ragolygon a strategaeth ar gyfer cerbydau trydan. Bydd eu rhagolygon ciplun ar gyfer 2025 a 2030 yn cael eu cyhoeddi fel diweddariadau i Strategaeth 2021 a bydd eu diweddariadau yn y dyfodol yn cael eu sicrhau a'u cyhoeddi wrth i ddata newydd ddod ar gael.

 

Argymhelliad 8

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai'r Dirprwy Weinidog gadarnhau a yw'r targed i ddarparu mannau gwefru chwim o leiaf bob 20 milltir ar y rhwydwaith ffyrdd strategol ar y trywydd iawn i gael ei gyflawni a chadarnhau pryd y mae’n disgwyl iddo gael ei gyflawni

Ymateb: Derbyn

Bydd y gwaith o osod 19 o fannau gwefru chwim bob 25 milltir o leiaf ledled Cymru, a phob 20 milltir ar gyfer y rhan fwyaf o'r rhwydwaith, yn cael ei gwblhau yn 2023 – ddwy flynedd cyn targed y Cynllun Gweithredu. Edrychwch ar yr ymateb i Argymhelliad 13 i gael rhagor o fanylion.

Goblygiadau ariannol – Dim.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Gweler yr ymateb i Argymhelliad 6.

 

Argymhelliad 9

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru roi manylion pellach am y camau gweithredu penodol mewn perthynas â seilwaith gwefru cerbydau trydan y bydd y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn yn cael ei defnyddio i’w hariannu

Ymateb: Derbyn

Mae gan awdurdodau lleol rôl hollbwysig i’w chwarae yn y gwaith o alluogi’r newid i gerbydau trydan yn eu hardaloedd, gan gynnwys mynd ati’n rhagweithiol i gefnogi a darparu mannau gwefru cerbydau trydan.

Pwrpas y grant cerbydau allyriadau isel iawn yw rhoi cymorth ariannol i awdurdodau lleol i ddarparu seilwaith gwefru cerbydau trydan sydd ar gael i’r cyhoedd yn eu hardaloedd yn unol ag amcanion y strategaeth gwefru cerbydau trydan ar gyfer Cymru a’i Chynllun Gweithredu.

Meini prawf cymhwysedd cerbydau allyriadau isel iawn:

        Darparu gwefru yn y gyrchfan
Fel arfer, mae gwefru yn y gyrchfan yn digwydd mewn lleoliadau y byddai’r defnyddiwr yn ymweld â nhw beth bynnag: canolfannau manwerthu, siopau groser, campfeydd ac ati. Mae’r defnyddiwr yn gwefru ei gerbyd ym maes parcio’r gyrchfan tra maen nhw’n ymweld â hi. Mewn lleoliadau lle mae’r amser aros yn hirach, e.e. dros nos mewn gwestai, gellir defnyddio gwefru araf. Mae’r rhan fwyaf o fannau gwefru yn y gyrchfan yn gyflym, a gall rhai fod yn chwim, e.e. lle mae’r amser aros yn fyrrach. Mae PodPoint wedi rhagweld y bydd 7% o’r holl wefru’n digwydd mewn cyrchfannau mewn marchnad cerbydau trydan gwbl ddatblygedig. Mae cyfleusterau gwefru chwim a chwim iawn cyhoeddus – sy’n cynnwys gwefru hyb, gwefru ar y ffordd, a rhywfaint o wefru yn y gyrchfan – yn cyfrif am 45% o’r galw am wefru cyhoeddus yn ôl ynni, fel y’i modelwyd gan BloombergNEF.

        Darparu gwefru ar y stryd
Fel arfer, mae gwefru ar y stryd yn fath arafach o wefru cyhoeddus, gyda cherbydau’n aml yn aros wrth y gwefrwr dros nos. Mae mannau gwefru araf a chyflym yn aml yn cael eu hymgorffori mewn pyst lampau ar ochr y stryd neu’n cael eu gosod ar hyd ymyl y palmant. Mae tariffau’n aml yn amrywio’n sylweddol, hyd yn oed o fewn rhwydwaith. Efallai y bydd cyfraddau is ar gael i breswylwyr sy’n gwefru yn eu hardal leol, i ardaloedd nad ydynt yn rhai trefol, a / neu i aelodau rhwydwaith. Mae modelu gan BloombergNEF yn dangos bod y rhan fwyaf o wefru ar y stryd yn digwydd ar wefrwyr araf.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau i’r Swyddfa Cerbydau Di-allyriadau (OZEV) ar gyfer y Cynllun Mannau Gwefru Preswyl ar y Stryd (ORCS) ar ôl i’r cynllun gael ei lansio. Pwrpas y cynllun yw cynyddu’r mannau gwefru sydd ar gael ar y stryd mewn strydoedd preswyl lle nad oes mannau parcio oddi ar y stryd ar gael, gan sicrhau nad yw parcio ar y stryd yn rhwystr i wireddu manteision bod yn berchen ar gerbyd trydan. Gweler yr ymateb i Argymhelliad 11.

        Darparu cyfleusterau gwefru hyb 

Mae hybiau’n safleoedd pwrpasol, sy’n aml yn gwasanaethu’r galw am gerbydau aml-ddull, weithiau gyda chyfleusterau diwydiannol neu fanwerthu ar y safle. Mae’r gwefru sydd ar gael mewn hybiau yn aml yn chwim a chwim iawn, gydag amseroedd aros byr. Mae hybiau weithiau’n cael eu defnyddio gan yrwyr sy’n gwefru ar y ffordd. Maent yn wahanol i wefru ar y stryd a gwefru yn y gyrchfan yn eu lleoliad a’u darpariaeth sy’n canolbwyntio ar wefru. Gall hybiau fod mewn ardaloedd anghysbell neu drefol, ond gall cyfyngiadau grid (sy’n cyfyngu ar faint y cysylltiad) ac argaeledd tir beri heriau, yn enwedig yn yr ail o’r rhain. Mae gan lawer o hybiau gyfleusterau gwefru sy’n benodol ar gyfer mathau gwahanol o ddefnyddiwr, ee tacsis, cerbydau fflyd, bysiau, ceir preifat. Mae gwasanaethu gwahanol fathau o gerbydau mewn un ganolfan yn gallu bod yn heriol os yw eu hanghenion gwefru technegol yn unigryw.

·         Darparu safleoedd cydleoli

·         Asesu’r cyfle i gydleoli ynni adnewyddadwy gyda seilwaith gwefru cerbydau trydan.

Goblygiadau Ariannol Rydym wedi dyrannu £8.8 miliwn mewn grantiau Cerbydau Allyriadau Isel Iawn ar gyfer 2023-24.

Rhagolygon y gyllideb yn y dyfodol – wrth ddatblygu ein Hachos Busnes Amlinellol Strategol rydym wedi gwneud asesiadau ar gyfer gofynion cyllideb gyhoeddus yn y dyfodol i ddiwallu'r angen amlwg, ond nid yw darparu'r cyllid hwn wedi'i gytuno eto a bydd yn parhau i fod yn heriol o ystyried pwysau cyllidebol presennol. Er mwyn cynnal y gyfran o cyfleusterau gwefru i geir trydan ar y ffordd bydd angen cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth seilwaith dros y 2020au, gyda chyfran y cyllid a ddarperir gan y sector preifat yn cynyddu'n gyflym. Mae'r graffiau isod yn darlunio’r gofynion cyllidebol yn seiliedig ar ragdybiaethau yn ein gwaith cynllunio busnes ac nid ydynt yn ddyraniadau cyllideb y cytunwyd arnynt, a byddant mewn unrhyw achos yn newid yn unol â’r gyfradd sy'n defnyddio cerbydau trydan.

A graph of a number of people  Description automatically generated


Bydd cyfanswm y cyllid cyhoeddus (o dan y gronfa Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn) yn parhau o dan bwysau ond mae disgwyl i'r sector preifat gyfrannu tua £825m dros y cyfnod hwn. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn rheoli’r Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn wrth symud ymlaen, gyda'u gallu i gynnig arbenigedd a chymorth rheoli prosiectau. Ategir hyn drwy annog awdurdodau lleol i gynnwys adnoddau staff sy'n ymroddedig i gyflawni yn eu cynlluniau, gan gynnwys ymgysylltu'n well â'r sector masnachol i sicrhau bod y buddsoddiad allanol hwn yn cael ei wireddu. Mae’r Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn wedi'i ailstrwythuro i ffafrio prosiectau sy'n galluogi yn hytrach nag yn cystadlu â chynlluniau’r sector preifat.

 

Argymhelliad 10

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu canllawiau ar gyfer arfer gorau wrth osod seilwaith gwefru cyhoeddus.

Ymateb: Derbyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Safonau Cenedlaethol ar gyfer y Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan yng Nghymru. Mae’r canllaw ar-lein yn rhoi manylion set o arferion gorau a argymhellir ar gyfer cyfleusterau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus yng Nghymru sy’n ddiogel, yn hygyrch ac yn ddibynadwy. Mae’r Safonau wedi cael eu datblygu i’w defnyddio gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus, mentrau cymunedol a phartneriaid cyflawni sy’n ymwneud â gosod seilwaith gwefru cerbydau trydan yng Nghymru. Ac eithrio lle nodir yn benodol, nid yw’r argymhellion a nodir yn y Safonau Cenedlaethol yn rhwymo’n gyfreithiol. Yn hytrach, maent wedi cael eu datblygu fel canllaw arferion gorau llawn gwybodaeth i helpu Cymru tuag at ei thargedau carbon sero net.

Mae’r argymhellion yn ymdrin â meysydd yn cynnwys y manylebau sy’n ymwneud â dylunio mannau gwefru, fel cyflymderau, gofynion cynllunio a mathau o gysylltiadau plwg, yn ogystal â lleoliad y man gwefru yn yr amgylchedd o amgylch. Maent hefyd yn ymdrin ag agweddau ar strydlun, gan gynnwys hygyrchedd a diogelwch, anghenion ynni a chysylltiadau, agweddau gweithredol, nodiadau caffael ac ystyriaethau sy’n dod i’r amlwg ac ystyriaethau ar gyfer y dyfodol. Maent yn darparu atebion i osgoi unrhyw rwystr i droedffyrdd a diogelu llwybrau teithio.  Gwerthfawrogir na fydd yr holl argymhellion yn berthnasol ym mhob sefyllfa gan fod angen i bob man gwefru unigol ymateb i anghenion a gwahaniaethau lleol, yn ogystal â fframweithiau polisi rhanbarthol a chenedlaethol. Fodd bynnag, mae’r Safonau Cenedlaethol yn ymdrechu i sicrhau bod pawb sy’n defnyddio cerbydau trydan yng Nghymru, wrth symud ymlaen, yn hyderus yn eu gallu i gael mynediad at seilwaith gwefru lle bynnag a phryd bynnag y bo angen.

Bydd y Safonau Cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

Goblygiadau ariannol – Dim.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Cyhoeddwyd y Safonau Cenedlaethol a’u rhannu ar draws yr ALlau a’r diwydiant.

Seilwaith gwefru cerbydau trydan: safonau cenedlaethol | LLYW.CYMRU

 

 

Argymhelliad 11

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru asesu effaith y penderfyniad i beidio â chaniatáu i gyllid Llywodraeth Cymru gael ei ddefnyddio mwyach i wneud yn iawn am y 25 y cant o’r cyllid nad yw’n dod o dan grant o dan y Cynllun Mannau Gwefru Preswyl ar y Stryd (ORCS), a rhoi gwybodaeth am drafodaethau a gynhaliwyd gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn.

Ymateb: Derbyn

Mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau i’r Swyddfa Cerbydau Di-allyriadau (OZEV) ar gyfer y Cynllun Mannau Gwefru Preswyl ar y Stryd (ORCS) ar ôl i’r cynllun gael ei lansio. Pwrpas y cynllun yw cynyddu’r mannau gwefru sydd ar gael ar y stryd mewn strydoedd preswyl lle nad oes mannau parcio oddi ar y stryd ar gael, gan sicrhau nad yw parcio ar y stryd yn rhwystr i wireddu manteision bod yn berchen ar gerbyd trydan.

Mae’r cynllun yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu cael gafael ar gyllid grant y gellir ei ddefnyddio i ariannu’n rhannol y gwaith o gaffael a gosod seilwaith mannau gwefru cerbydau trydan ar y stryd ar gyfer anghenion preswyl. Wrth i’r galw am seilwaith gwefru ar y stryd gynyddu, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r sector preifat fuddsoddi mwy i adeiladu a gweithredu rhwydwaith cyhoeddus sy’n ffynnu ac yn cynnal ei hun. Mae’n hanfodol bod awdurdodau lleol yn hwyluso modelau masnachol i sicrhau bod rhwydweithiau’n gallu parhau i ehangu a gwella, er mwyn diwallu anghenion preswylwyr. Mae awdurdodau lleol yn cael eu hannog i archwilio’r holl opsiynau masnachol sydd ar gael iddynt wrth gynllunio seilwaith cerbydau trydan.

Bydd ceisiadau ORCS 2023-24 yn gymwys i gael cyllid ORCS o 50% a bydd gofyn iddynt sicrhau 50% o arian cyfatebol preifat. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r OZEV ac yn cytuno â nhw ynglŷn â’r angen i sicrhau bod cwmnïau preifat yn cyfrannu at gyflwyno mannau gwefru.

Goblygiadau ariannol – Dim.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Wrth i'r sector masnachol dyfu ynghyd â'r galw am wefru ar y stryd, gellir darparu mwy a mwy o seilwaith gwefru cerbydau trydan ar y stryd am gost is neu gost isel i ALlau. Mae TrC yn cefnogi ALlau sydd eisoes yn defnyddio'r dull hwn ac yn awyddus i rannu’r hyn a ddysgwyd i gyflwyno prosiectau arddangos ar draws ardaloedd eraill lle mae parcio oddi ar y stryd yn gyfyngedig.

 

 

Argymhelliad 12

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru esbonio pam na chafodd y grŵp cysylltiadau yr oedd wedi ymrwymo i’w sefydlu o dan Gam Gweithredu 2 ei sefydlu yn unol â’r amserlen yn y Cynllun Gweithredu. Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu'r grŵp cysylltiadau o fewn yr wythnosau nesaf.

Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor 

Cynllun Llywodraeth Cymru yw sefydlu grŵp Cysylltiadau ddechrau hydref 2023 a fydd yn cynnwys Llywodraeth Cymru, TrC a Gweithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu i ddechrau cwmpasu cylch gwaith y grŵp. Ar y pwynt hwnnw, bydd y grŵp yn nodi pa bartïon eraill fydd angen eu cynnwys. Pwrpas cyffredinol y grŵp Cysylltiadau fydd sicrhau bod cymaint o bŵer â phosibl ar gael ar gyfer gwefru cerbydau.

Mae swyddogion wedi sefydlu perthynas waith dda gyda SPEN a National Grid (WPD). Teimlwyd bod angen datblygu rhaglen gyflawni gadarn cyn sefydlu’r Grŵp Cysylltiadau, fel bod modd cyflwyno cyfeiriad clir y cytunwyd arno i’r grŵp.

Goblygiadau ariannol – Dim.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Sefydlwyd Grŵp Cysylltiadau yn ystod gwanwyn 2023 gyda phresenoldeb calonogol gan Weithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu, y diwydiant ac ALlau, a rhestr o gamau gweithredu sydd eisoes yn darparu cymorth gwerthfawr wrth gyflawni ar draws yr holl bartneriaid. Mae'r rhain wedi cael croeso cynnes gan y Gweithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu. Dywedodd NGED:

'Mae National Grid Electricity Distribution yn gwerthfawrogi'r cyfle i weithio'n agos gyda grwpiau rhanddeiliaid fel TrC. Mae'r ymgysylltiad yn werthfawr iawn ac yn rhoi mwy o sicrwydd ar gyfer y lleoliad a’r cyfraddau adeiladu ar gyfer darparu mannau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru y mae gan TrC dylanwad uniongyrchol arnynt. Drwy fynd ati i ymgysylltu’n gynnar, gall NGED ymgorffori'r amcanestyniadau hyn yn ein proses gynllunio strategol a sicrhau ein bod yn buddsoddi yn ein rhwydweithiau i helpu ein holl gwsmeriaid i gyflawni eu huchelgeisiau datgarboneiddio.'

Argymhelliad 13

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai’r Dirprwy Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sylwadau gan EVA Cymru bod seilwaith ar waith mewn dim ond 3 o’r 21 o leoliadau a nodwyd gan Trafnidiaeth Cymru fel rhai a oedd yn disgwyl seilwaith newydd o dan Gam Gweithredu 3.

Ymateb: Derbyn

Roedd prosiect chwim y rhwydwaith ffyrdd strategol yn cynnwys 11 safle yn wreiddiol (heb gyfrif y Bala fel y safle peilot). Roedd y ffigur o 21 yn adlewyrchu mannau gwefru ar gyfer yr 11 safle gwreiddiol ac nid lleoliadau. 

Mae TrC wedi ychwanegu 7 safle arall at y prosiect, sy’n golygu eu bod yn darparu 36 o fannau gwefru ar 19 safle (os ydyn ni’n cynnwys y Bala).

Cafodd safle yng Nghonwy ei dynnu o’r prosiect a’i ddisodli gan safle ar Ynys Môn.

Mae TrC eisoes wedi darparu 6 o’r 19 lleoliad ac mae ar y trywydd iawn i ddarparu’r 13 lleoliad sy’n weddill eleni, y rhan fwyaf ohonynt erbyn Ch3 2023.

 

Lleoliad:

Awdurdod Lleol

 Safle Byw

Diweddariadau

Peilot Bala - Y Grîn (Safle Peilot)

Gwynedd

17/11/2021

Cwblhawyd - safle byw
Trosglwyddo perchnogaeth i SWARCO - 22/11/22

Machynlleth - Stryd y Banc

Powys

14/07/2022

Cwblhawyd - safle byw

Crucywel - Stryd Beaufort

Powys

27/09/2022

Cwblhawyd - safle byw

Y Drenewydd - Back Lane

Powys

19/12/2022

Cwblhawyd - safle byw

Llanymddyfri – Maes Parcio’r Castell

Sir Gaerfyrddin

23/12/2022

Cwblhawyd - safle byw

Llanybydder - Man Gwefru oddi ar Deras-Yr-Orsaf

Sir Gaerfyrddin

23/12/2022

Cwblhawyd - safle byw

Dolgellau - Y Marian Mawr

Gwynedd

26/05/2023

 Cwblhawyd - safle byw

Porthmadog - Iard-yr-Orsaf

Gwynedd

26/05/2023

 Cwblhawyd - safle byw

Blaenau Ffestiniog - Diffwys

Gwynedd

26/05/2023

 Cwblhawyd - safle byw

Rhydaman – Maes Parcio Carregaman

Sir Gaerfyrddin

Ch2 2023

 Cwblhawyd - safle byw

Maes Parcio Corwen

Sir Ddinbych

Ch2 2023

 Cwblhawyd - safle byw

Y Trallwng - Stryd yr Eglwys

Powys

12/05/2023

 Cwblhawyd - safle byw

Llandrindod - Man Gwefru’r Stryd Fawr

Powys

19/05/2023

 Cwblhawyd - safle byw

Porthcawl - Promenâd y Dwyrain

Pen-y-bont ar Ogwr

Ch3 2023 - I’w gadarnhau

Prydles i’w dychwelyd.

Man Gwefru Talgarth

Powys

Ch3 2023 - I’w gadarnhau

‌Rhagwelir ei gwblhau o hyd yn ystod Ch3 2023

Castell Newydd Emlyn - Man Gwefru’r Farchnad Da Byw

Sir Gaerfyrddin

I’w gadarnhau

Maes parcio i’w gofrestru cyn i’r fforddfraint allu clirio, yna mae angen adeiladu Trawsnewidydd.

Craig -y -Nos

Powys - Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

I’w gadarnhau

Angen cynllunio a darparu is-orsaf 1MW. Hefyd y ffyrddfreintiau a’r brydles i gael eu cwblhau

Llangurig - Blue Bell

Powys (landlord preifat)

I’w gadarnhau

Prydles i gael ei chytuno.

Canolfan Hamdden Plas Arthur

Cyngor Sir Ynys Môn

I’w gadarnhau

Angen cynllunio.

Bae Colwyn - Man Gwefru Rhodfa'r Tywysog

Conwy

 

Tynnwyd y safle o’r prosiect gan gyngor Conwy

 

Goblygiadau Ariannol Cyfanswm costau’r prosiect: £697,959. Derbyniwyd tua £500,000 o gyllid Adferiad Gwyrdd Ofgem tuag at gostau Gweithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu ar gyfer 8 o’r 19 safle.

 

Argymhelliad 14

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru egluro pam y cyflawnwyd Cam Gweithredu 4 yn hwyr a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y cafodd y Safon ei chwblhau ac a yw awdurdodau lleol wedi ei defnyddio ers hynny.

Ymateb: Derbyn

Gweler yr ymateb i Argymhelliad 10.

Roedd datblygu’r Safonau Cenedlaethol yn rhan o bortffolio o chwe ffrwd waith gymhleth ac uchelgeisiol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a ddarparwyd gan Arup rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023 a fydd yn helpu TrC, awdurdodau lleol a phartneriaid cyflawni eraill i gyflymu’r gwaith o ddarparu seilwaith gwefru ledled Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru yn credu ei bod yn bwysig cymryd yr amser sydd ei angen i ddatblygu Safonau cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth.  

Goblygiadau ariannol – Dim.

 

Argymhelliad 15

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru egluro pam na chafodd yr adolygiad o reoliadau adeiladu ei gyflawni yn 2022, fel yr ymrwymodd iddo o dan Gam Gweithredu 5.

Ymateb: Derbyn

Roedd y gofyniad i flaenoriaethu gwaith yn golygu bod yr ymgynghoriad ar ddiwygio’r Rheoliadau Adeiladu i orfodi mannau gwefru cerbydau trydan wedi cael ei ohirio ond mae’r gwaith yn mynd rhagddo erbyn hyn, a bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio yn ystod haf 2023.

Goblygiadau Ariannol – mae £100,000 wedi cael ei neilltuo i gyflawni’r ymgynghoriad ar Reoliadau Adeiladu.

 

Argymhelliad 16

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid i sicrhau bod yr adolygiad o reoliadau adeiladu i gefnogi’r defnydd o gerbydau trydan yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl. Dylai Llywodraeth Cymru roi amserlen i'r Pwyllgor ar gyfer cwblhau'r gwaith hwn. Dylai'r Llywodraeth ystyried sut y gall y system gynllunio annog neu fynnu bod seilwaith gwefru yn cael ei ddarparu ochr yn ochr â datblygiadau priodol eraill fel gwestai, atyniadau i ymwelwyr, a gorsafoedd gwefru

Ymateb: Derbyn

Disgwylir y bydd ymgynghoriad ar ddiwygio’r Rheoliadau Adeiladu i orfodi mannau gwefru cerbydau trydan yn cael ei lansio yn ystod haf 2023.

Mae Polisi Cynllunio Cymru a Cymru’r Dyfodol yn cefnogi darparu mannau gwefru cerbydau trydan. Mae Cymru’r Dyfodol, sydd â statws cynllun datblygu, yn datgan o dan Bolisi 12: Cysylltedd Rhanbarthol: "Lle y darperir lleoedd parcio ceir ar gyfer datblygiad amhreswyl newydd, dylai awdurdodau cynllunio geisio sicrhau bod gan o leiaf 10% o leoedd parcio ceir fannau gwefru cerbydau trydan."

Goblygiadau Ariannol – mae £100,000 wedi cael ei neilltuo i gyflawni’r ymgynghoriad ar Reoliadau Adeiladu.

 

Argymhelliad 17

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru egluro pam na chafodd gweithgor gweithredwyr mannau gwefru ei sefydlu yn 2021, fel yr ymrwymwyd iddo o dan Gam Gweithredu 6. Dylai Llywodraeth Cymru gyflawni'r ymrwymiad yn y cynllun gweithredu a sefydlu'r gweithgor gweithredwyr mannau gwefru o fewn yr wythnosau nesaf. Mae'r gweithgor hwn yn hanfodol er mwyn cyflymu'r broses o ddarparu seilwaith gwefru cerbydau trydan.

Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor

Roedd Llywodraeth Cymru a TrC yn cytuno bod y Rhaglen Seilwaith gwefru cerbydau trydan (fel y’i diffinnir mewn ymateb i Argymhelliad 5) yn rhagofyniad i’n hymgysylltiad ffurfiol â grŵp o weithredwyr mannau gwefru. Rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o’r seilwaith gwefru cerbydau trydan yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan y sector preifat (ac mae Llywodraeth y DU yn cytuno â’r safbwynt). Mae ein gwaith modelu achosion ariannol yn amcangyfrif y bydd cost gosod yr holl seilwaith gwefru ar y ffordd a gwefru yn y gyrchfan yng Nghymru yn cyrraedd £351 miliwn i £1,550 miliwn erbyn 2040. Felly, roedd hi’n hanfodol ein bod yn cymryd yr amser i sefydlu blaenoriaethau a chamau gweithredu clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn galluogi partneriaid cyflenwi yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat i gyflymu’r gwaith o ddarparu seilwaith ledled Cymru.

Mae’r Rhaglen Seilwaith bellach wedi’i chwblhau a bydd TrC, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn sefydlu Gweithgor Gweithredwyr Mannau Gwefru yn ystod haf 2023.

Goblygiadau ariannol – Dim.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae’r Gweithgor Gweithredwyr Mannau Gwefru wedi’i sefydlu fel y nodir uchod.

 

Argymhelliad 18

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Hoffai'r Pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu’r cynnig ar gyfer desg gwasanaethau mewnol i hybu pob agwedd ar ddarparu a rheoli mannau gwefru cerbydau trydan, gan gynnwys a fydd yn cael ei adlewyrchu mewn Cynllun Gweithredu diwygiedig neu ddangosyddion perfformiad allweddol cysylltiedig.

Ymateb: Derbyn

Cafodd capasiti TrC ei gynyddu ym mis Medi 2022 i oruchwylio’r gwaith o roi’r ddesg gymorth fewnol ar waith. Bu cyfarfodydd rhwng TrC â phob awdurdod lleol i gael gwell dealltwriaeth o’u cynlluniau seilwaith gwefru cerbydau trydan, eu problemau a’u gofynion o ran cymorth.

Mae’r ddesg gymorth yn weithredol ac yn darparu cymorth galw allan dwyieithog i bartneriaid cyflenwi gwefru cerbydau trydan yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan eu galluogi i ymateb yn Gymraeg i ymholiadau gan ddefnyddwyr.

Drwy’r ddesg gymorth, mae TrC yn trefnu ac yn darparu gweminarau ar faterion a phynciau sy’n cael eu codi gan bartneriaid cyflawni. Cyflwynodd y weminar gyntaf ar 14 Ebrill 2023 yr adnoddau Gwybodaeth a Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Cerbydau Trydan (NEVIS). Arweiniodd hyn at adborth cadarnhaol cryf a arweiniodd at y penderfyniad i alluogi awdurdodau lleol a sefydliadau’r GIG i gael gafael ar adnoddau NEVIS drwy’r ddesg gymorth. Mae’r pecyn data Mewnwelediadau’n darparu dadansoddiad data sy’n sicrhau bod sefydliadau partner cyflawni wedi’u harfogi i gyflawni gweledigaeth, strategaeth a chynllun cyflawni clir ar gyfer seilwaith cerbydau trydan.  Bydd y pecyn cymorth Storfa Wybodaeth yn arfogi ac yn darparu canllawiau a gwybodaeth allweddol i awdurdodau lleol a sefydliadau’r GIG ar gyfer pob cam o’r broses o ddarparu seilwaith cerbydau trydan (datblygu strategaeth; darparu cynllunio; caffael; symud a gosod; a gweithrediadau). Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu llwyfan grŵp trafod ar gyfer rhannu profiadau a syniadau am bynciau, gan annog cydweithio a chyfrannu. 

Goblygiadau ariannol – Dim.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae’r holl adnoddau uchod yn parhau i fod ar gael ac maent yn cael eu datblygu’n gyson er budd y partneriaid masnachol a sector cyhoeddus.

 

Argymhelliad 19

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylid ailedrych ar y dangosydd perfformiad allweddol ar gyfer Cam Gweithredu 7 - 'Cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd' - i'w wneud yn fwy manwl a mesuradwy.

Ymateb: Derbyn

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r dangosydd perfformiad allweddol ar gyfer Cam Gweithredu 7, fel rhan o’n hadolygiad ehangach o ddangosyddion perfformiad allweddol (mae’n cyfeirio at ein hymateb i Argymhelliad 7). 

Goblygiadau Ariannol – bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud o fewn y cyllidebau presennol.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Cafodd manteision cerbydau trydan eu cyfleu i ddefnyddwyr drwy ‌‌wefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru (Dewisiadau Teithio Gwyrdd). Bu’r Gweithgor Gweithredwyr Mannau Gwefru yn rhoi cyflwyniadau yn ystod ‌‌Wythnos Hinsawdd Cymru 2023

 

Argymhelliad 20

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai’r Dirprwy Weinidog egluro pam na chafodd Cam Gweithredu 8 – 'Annog arloesedd a chyfleoedd i fuddsoddi’ – ei gyflawni ar amser a chymryd camau i’w ddatblygu yn y chwe mis nesaf.

Ymateb: Derbyn

Mae Llywodraeth Cymru yn credu ei bod yn hanfodol datblygu rhaglen gyflawni gredadwy a rhwydwaith sy’n cael ei ffafrio cyn ymgysylltu â phartneriaid cyflawni i drafod cyfleoedd buddsoddi. Cymerodd y gwaith hwn tua 12 mis i Lywodraeth Cymru ei gyflawni.

Mae Llywodraeth Cymru yn dod â’r timau Datgarboneiddio Trafnidiaeth a Busnes a Rhanbarthau at ei gilydd i archwilio a darparu cyfleoedd buddsoddi ac arloesi yn y sector preifat ym maes cerbydau trydan a gwefru cerbydau trydan.

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Fframwaith Caffael Cenedlaethol newydd ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydan a fydd yn helpu i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer y gadwyn gyflenwi, arloesi a buddsoddi ledled Cymru. Mae disgwyl i’r Fframwaith fod yn barod erbyn diwedd yr haf. 

Mae TrC yn gweithio gydag awdurdodau lleol a’r sector preifat i ganfod a gweithredu datrysiadau arloesol a chyfleoedd buddsoddi a fydd yn helpu i ddatrys materion allweddol sy’n llesteirio cynnydd ar hyn o bryd – ee datrysiadau gwefru ar y stryd.

Goblygiadau ariannol – Dim.

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae TrC yn gweithio gyda darparwyr gwefru ar y stryd i nodi a rhannu gwybodaeth am dechnolegau newydd sy’n dod i’r amlwg a modelau masnachol newydd ar gyfer cyflawni.

 

Argymhelliad 21

Mae’r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

Dylai’r Dirprwy Weinidog roi diweddariad manwl ar y cynnydd mewn perthynas â Cham Gweithredu 9 a’r offeryn y mae wedi’i gomisiynu i asesu’r cyfle i gyd-leoli ynni adnewyddadwy gyda seilwaith gwefru cerbydau trydan.

Ymateb: Derbyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Arup i ddylunio a chreu adnodd modelu i asesu’r cyfle i gydleoli ynni adnewyddadwy gyda seilwaith gwefru cerbydau trydan (y cyfeirir ato fel yr ‘adnodd cydleoli’). Mae’r adnodd yn barod ac wedi’i ddylunio ar gyfer gwaith ar lefel y safle a allai fod o fewn Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) neu Gynlluniau Ynni Ardal Leol (LAEP) ehangach.

Pwrpas yr adnodd yw gwerthuso cyfleoedd ar gyfer defnyddio ynni adnewyddadwy mewn safleoedd gwefru cerbydau trydan. Ar gyfer safle penodol, bydd yr offeryn yn cymharu:

·         Cysylltu’r safle â’r grid trydan heb unrhyw ynni adnewyddadwy.

·         Defnyddio canopi gwynt a solar gydag unrhyw ynni adnewyddadwy sydd dros ben yn cael ei allforio i’r grid.

·         Defnyddio canopi solar a phaneli solar ar y ddaear gydag unrhyw ynni adnewyddadwy sydd dros ben yn cael ei allforio i’r grid.

·         Defnyddio canopi gwynt a solar gyda storfa fatri.

·         Defnyddio canopi solar a phaneli solar ar y ddaear gyda storfa fatri.

Gellir defnyddio’r adnodd i gymharu gwahanol safleoedd hefyd.

Mae’r adnodd cydleoli wedi’i ddylunio i wella dealltwriaeth o’r pwyntiau canlynol:

·         Y mathau o safleoedd gwefru cerbydau trydan sydd fwyaf addas ar gyfer cydleoli ynni adnewyddadwy.

·         Y ffurfweddiadau ynni adnewyddadwy a storio sydd fwyaf addas ar gyfer cydleoli â gwefru cerbydau trydan.

·         Arwydd lefel uchel o gostau cymharol cydleoli.

·         Lle gallai fod angen cymorth ariannol ychwanegol i gefnogi’r gwaith o osod safleoedd cydleoli.

Mae gosod ynni adnewyddadwy y tu ôl i’r mesurydd ar safleoedd cerbydau trydan yn gallu arwain at y manteision canlynol:

·         Darparu trydan di-garbon neu garbon isel i gerbydau trydan

·         Lleihau’r galw ar rwydweithiau trydan, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau

 

Goblygiadau ariannol – Dim.